I lawer o bobl, dod o hyd i gartref diogel a’i gadw yw’r cam cyntaf at ddatblygu bywyd gwell iddyn nhw a’u teuluoedd – gallwch chi helpu i gyflawni hynny.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru.
Er mwyn cyflawni hyn, mae angen pobl ymroddedig arnom sy’n gweithredu ar sail gwerthoedd i ddod â’u profiadau bywyd a gwaith amrywiol i swyddi gwerth chweil yn y sector Digartrefedd a Chymorth.
Wedi’i greu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Cymorth Cymru, mae’r hyb hwn yn dwyn ynghyd y sefydliadau yng Nghymru sy’n recriwtio ar hyn o bryd.
Felly, p’un a ydych chi wedi ystyried swyddi ym maes Digartrefedd a Chymorth o’r blaen, neu os yw’r sector yn gwbl newydd i chi, rydym ni’n gwybod bod eich sgiliau trosglwyddadwy, eich profiadau bywyd, a’ch gwerthoedd personol yn hanfodol i gyflawni ein nodau ni – a gallent eich tywys chi tuag at:
Os ydych chi’n dwlu ar y syniad o weithio gyda phobl, yn mwynhau amrywiaeth a hyblygrwydd, ac yn angerddol ynglŷn â dod o hyd i bwrpas yn eich gwaith, gallwn eich helpu i ddatblygu gyrfa sefydlog a gwerth chweil.
Mewn sector lle nad oes dau ddiwrnod yr un fath, cewch gefnogaeth ‘yn y swydd’ sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, cyfleoedd i gydweithio â chydweithwyr ac ar draws prosiectau, a’r cyfle i gyfrannu’n gadarnhaol at newid cymdeithasol sylweddol yng Nghymru.
Nid oes angen profiad o’r sector na phrofiad gwaith penodol arnoch ar gyfer llawer o’r swyddi hyn.
A dweud y gwir, rydym yn chwilio am unrhyw un sydd â’r…
… a rhywun sy’n gallu dod â syniadau, egni a brwdfrydedd newydd.
Darllenwch straeon gwir gan bobl sydd wedi newid i’r sector Digartrefedd a Chymorth yn ein hadran Pobl a Phroffiliau.
Mae llawer o bobl sy’n gweithio yn y swyddi hyn heddiw wedi defnyddio gwasanaethau eu hunain yn y gorffennol ac maen nhw wedi ymrwymo i helpu eraill sy’n wynebu heriau tebyg – mae profiad bywyd yn eich paratoi’n unigryw i weithio yn y sector hwn ac mae llawer o sefydliadau’n ei werthfawrogi’n fawr.
Mae llawer o wahanol swyddi gyda llawer o wahanol sefydliadau – ac mae gan bob un ohonyn nhw eu pecynnau hyfforddi, buddion a gwobrwyon eu hunain – edrychwch ar yr adran Swyddi i weld swyddi unigol.
Ond mae rhai pethau’n gyffredinol ar draws y sector cyfan.
O’r croeso cynnes i bobl o bob cefndir, profiad a lefel sgiliau, i’r gefnogaeth a’r hyfforddiant anhygoel sydd ar gael – ni fyddwch byth yn cael eich gadael i ymdopi ar eich pen eich hun mewn swyddi yr ydym yn gwybod y gallan nhw fod yn heriol weithiau.
Byddwch yn elwa ar:
“Mae faint o gyfleoedd hyfforddi rwyf wedi’u cael wedi bod yn anhygoel. Rwyf wedi cael hyfforddiant arbenigol trylwyr a digon o gyfleoedd i ddatblygu.” – Heulwen – Arweinydd Tîm
“eysydd, o bethau fel deddfwriaeth tai sy’n benodol iawn i’r swydd, i’r meysydd sy’n canolbwyntio’n fwy ar y bobl fel materion iechyd meddwl a chydraddoldeb/amrywiaeth – Macsen – Gweithiwr Cymorth” – Macsen, Gweithiwr Cymorth
“Rwyf wedi cael hyfforddiant mewn pob math o feysydd, o bethau fel deddfwriaeth tai sy’n benodol iawn i’r swydd, i’r meysydd sy’n canolbwyntio’n fwy ar y bobl fel materion iechyd meddwl a chydraddoldeb/amrywiaeth.” – Macsen, Gweithiwr Cymorth
“Mae tai â chymorth yn ddrws troi parhaus, sy’n rhoi cyfleoedd a hyfforddiant o’r safon uchaf” – Deborah, Gweithiwr Prosiect
Clywch gan y bobl sy’n gweithio ym maes Digartrefedd a Chymorth ar hyn o bryd… O’r rhai sydd wedi bod yma ers 20 mlynedd ac na fydden nhw eisiau gwneud unrhyw beth arall, i ddechreuwyr pur sy’n dwlu ar eu swyddi, a’r rhai sydd wedi newid sector gan ddefnyddio eu sgiliau trosglwyddadwy – darllenwch eu straeon anhygoel, ysbrydoledig ac ysgogol. Ewch i’n ianel YouTube am ragor o straeon ysbrydoledig gan bobl sy’n gweithio yn y maes.
“Yn fy swydd fel Gweithiwr Prosiect, nid oes dau ddiwrnod yr un fath.
Rwyf i bob amser wedi bod â diddordeb mawr mewn pobl, ac yn fy 13 mlynedd yn gweithio yn y sector, rwyf wedi mwynhau gweithio gyda phobl o bob cefndir a’r cyfle i allu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau’r rhai mewn angen neu mewn sefyllfaoedd anodd.
Mae tai â chymorth yn faes sy’n newid yn barhaus, sy’n darparu cyfleoedd a hyfforddiant o’r safon uchaf.”
- Deborah, Gweithiwr Prosiect
“Ar ôl symud i’r sector Digartrefedd yn ddiweddar, mae fy swydd wedi rhoi pwyslais gyrfa newydd i mi, gyda nodau y mae modd eu cyflawni ac amgylchedd gwaith da.
Mae’n rhoi cymaint o foddhad i weithio gyda phobl o feddylfryd tebyg i ymdrin â phroblemau digartrefedd a cheisio diwallu un o’r anghenion mwyaf sylfaenol y gall person ei gael: sef cael lle y gallan nhw deimlo’n ddiogel a bod yn rhan o’r gymuned.”
Mae ymdeimlad gwych o gyflawni pan fyddwch chi wedi bod yn ddigon ffodus i gynorthwyo person i ddianc rhag y broblem hon, drwy wneud gwahaniaeth, dim ots pa mor fach.
- Dylan, Gweithiwr Cymorth Tenantiaid
“Dechreuais fel gweithiwr cymorth ac erbyn hyn rwy’n arweinydd tîm. Mae wedi rhoi ymdeimlad o bwrpas i mi yn fy mywyd.
Roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau gweithio gyda phobl, mewn swydd lle roeddwn i’n teimlo fy mod i’n helpu ac yn gwneud gwahaniaeth. Nid oes dau ddiwrnod yr un fath, ac rwy wir yn credu fy mod i wedi gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl a dyna sy’n fy nghymell i barhau i weithio yn y sector hwn.
Mae’r cyfleoedd hyfforddi yr wyf wedi’u cael wedi bod yn anhygoel. Rwyf i wedi cael hyfforddiant trylwyr, arbenigol a bu digon o gyfle i wneud cynnydd.”
- Heulwen, Arweinydd Y Tîm Iechyd Meddwl a Chamddefnyddio Sylweddau
“Gyda chefndir mewn gofalu, rwyf i wedi gweithio fy ffordd i fyny o weithiwr cymorth i arweinydd tîm. Mae fy swydd fel arweinydd tîm mewn Prosiect Menywod yn amrywiol iawn. Rwy’n dwlu ar fy swydd ac nid oes unrhyw ddau ddiwrnod yr un fath.
Y peth gorau yw, gyda chefnogaeth, gofal a charedigrwydd, gallwch chi chwyldroi bywydau pobl, ac maen nhw’n dweud “fe wnaethoch chi fy achub i.
Bob dydd, rwy’n teimlo fy mod i mor ffodus bod gen i swydd rwy’n ei charu a fy mod i’n gallu gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl dim ots pa mor fawr neu fach yw hwnnw. Rhoi cyfle i bobl gael bywyd gwell, dyna i gyd.”
- Joanne, Arweinydd y Tîm Iechyd Meddwl
“Ar ôl gweithio yn y sector am 15 mlynedd, rwy’n credu mai hwn yw’r sector gorau i weithio ynddo – gan gwrdd â gwahanol bobl o gefndiroedd amrywiol iawn, eu helpu nhw i helpu eu hunain, gweld pobl yn symud ymlaen gyda’u bywydau, gan wybod eich bod chi wedi gwneud gwahaniaeth ac y gallwch chi eirioli ar eu rhan pan na allan nhw wneud hynny, cael hwyl gyda’r cleientiaid.
Hoffwn i feddwl fy mod i wedi gwneud gwahaniaeth ym mywydau pobl eraill dros y blynyddoedd.”
- Michelle, Rheolwr CynllunOs ydych chi’n recriwtio yn y Sector Digartrefedd a Chymorth, byddem wrth ein bodd yn ychwanegu eich swydd at ein gwefan am ddim, fel y gallwn ni eich cefnogi chi i ddod o hyd i’r bobl orau. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael i ddarparwyr cymorth y trydydd sector, cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol yng Nghymru sydd â swydd ddigartrefedd neu gymorth yn y sector.
Llenwch y ffurflen i ddechrau cael ceisiadau ar unwaith.
Mae’r wefan hon yn ddwyieithog, felly gofynnwn i chi ddarparu’r wybodaeth yn ddwyieithog yn y fformat canlynol:
“Saesneg / Cymraeg” ar gyfer y meysydd teitl y swydd, cyflogwr a lleoliad. Er enghraifft:
– Senior Support Worker / Uwch Weithiwr Cymorth
– Carmarthenshire County Council / Cyngor Sir Gaerfyrddin
– Carmarthen / Caerfyrddin
Os hoffech chi godi unrhyw faterion neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cliciwch yma.