Cymorth Cymru Welsh Government
Chwiliwch am swyddi ym maes Digartrefedd a Chymorth ledled Cymru
Recriwtio Partneriaid

Swyddi

I lawer o bobl, dod o hyd i gartref diogel a’i gadw yw’r cam cyntaf at ddatblygu bywyd gwell iddyn nhw a’u teuluoedd – gallwch chi helpu i gyflawni hynny.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru.
Er mwyn cyflawni hyn, mae angen pobl ymroddedig arnom sy’n gweithredu ar sail gwerthoedd i ddod â’u profiadau bywyd a gwaith amrywiol i swyddi gwerth chweil yn y sector Digartrefedd a Chymorth.

Wedi’i greu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Cymorth Cymru, mae’r hyb hwn yn dwyn ynghyd y sefydliadau yng Nghymru sy’n recriwtio ar hyn o bryd.

Felly, p’un a ydych chi wedi ystyried swyddi ym maes Digartrefedd a Chymorth o’r blaen, neu os yw’r sector yn gwbl newydd i chi, rydym ni’n gwybod bod eich sgiliau trosglwyddadwy, eich profiadau bywyd, a’ch gwerthoedd personol yn hanfodol i gyflawni ein nodau ni – a gallent eich tywys chi tuag at:

  • swydd neu yrfa fwy gwerth chweil;
  • y cyfle i helpu eraill; a’r
  • cyfle i herio’ch hun mewn amgylchedd cefnogol sy’n esblygu’n gyson.
Filter
    Pam gweithio ym maes
    Digartrefedd a Chefnogaeth?

    Os ydych chi’n dwlu ar y syniad o weithio gyda phobl, yn mwynhau amrywiaeth a hyblygrwydd, ac yn angerddol ynglŷn â dod o hyd i bwrpas yn eich gwaith, gallwn eich helpu i ddatblygu gyrfa sefydlog a gwerth chweil.

    Mewn sector lle nad oes dau ddiwrnod yr un fath, cewch gefnogaeth ‘yn y swydd’ sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, cyfleoedd i gydweithio â chydweithwyr ac ar draws prosiectau, a’r cyfle i gyfrannu’n gadarnhaol at newid cymdeithasol sylweddol yng Nghymru.

    Nid oes angen profiad o’r sector na phrofiad gwaith penodol arnoch ar gyfer llawer o’r swyddi hyn.
    A dweud y gwir, rydym yn chwilio am unrhyw un sydd â’r…

    • gwerthoedd iawn – gofalgar, caredig, tosturiol
    • yr agwedd iawn – ymroddedig, brwdfrydig, awydd i wneud gwahaniaeth
    • y cymysgedd iawn o sgiliau trosglwyddadwy – gwych gyda phobl, trefnus, dyfeisgar

    … a rhywun sy’n gallu dod â syniadau, egni a brwdfrydedd newydd.

    Darllenwch straeon gwir gan bobl sydd wedi newid i’r sector Digartrefedd a Chymorth yn ein hadran Pobl a Phroffiliau.

    Mae llawer o bobl sy’n gweithio yn y swyddi hyn heddiw wedi defnyddio gwasanaethau eu hunain yn y gorffennol ac maen nhw wedi ymrwymo i helpu eraill sy’n wynebu heriau tebyg – mae profiad bywyd yn eich paratoi’n unigryw i weithio yn y sector hwn ac mae llawer o sefydliadau’n ei werthfawrogi’n fawr.

    Mother And Child
    Gwobrwyon

    Mae llawer o wahanol swyddi gyda llawer o wahanol sefydliadau – ac mae gan bob un ohonyn nhw eu pecynnau hyfforddi, buddion a gwobrwyon eu hunain – edrychwch ar yr adran Swyddi i weld swyddi unigol.

    Ond mae rhai pethau’n gyffredinol ar draws y sector cyfan.

    O’r croeso cynnes i bobl o bob cefndir, profiad a lefel sgiliau, i’r gefnogaeth a’r hyfforddiant anhygoel sydd ar gael – ni fyddwch byth yn cael eich gadael i ymdopi ar eich pen eich hun mewn swyddi yr ydym yn gwybod y gallan nhw fod yn heriol weithiau.

    Byddwch yn elwa ar:

    • Hyfforddiant yn ystod eich cyfnod ymsefydlu i’ch paratoi ar gyfer y swydd ac amrywiaeth eang o gyfleoedd hyfforddi parhaus
    • Cyfleodd ar gyfer dilyniant gyrfa os ydych chi’n eu dymuno
    • Amgylcheddau cefnogol sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau cadarnhaol i bobl sy’n defnyddio gwasanaethau
    • Gweithio gyda thîm o bobl wych yn y sefydliad a’r tu allan iddo
    • Llywodraeth Cymru sydd wedi ymrwymo i ariannu’r sector yn y tymor hir
    • Cyfle i fyw a mynegi eich gwerthoedd drwy eich gwaith
    • Gwaith ystyrlon sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau pobl
    • Patrymau gweithio hyblyg
    • I’r rhai sydd â phrofiad bywyd, cyfle i ddefnyddio’ch dealltwriaeth a’ch arbenigedd i helpu eraill
    Benefits

    “Mae faint o gyfleoedd hyfforddi rwyf wedi’u cael wedi bod yn anhygoel. Rwyf wedi cael hyfforddiant arbenigol trylwyr a digon o gyfleoedd i ddatblygu.” – Heulwen – Arweinydd Tîm

    “eysydd, o bethau fel deddfwriaeth tai sy’n benodol iawn i’r swydd, i’r meysydd sy’n canolbwyntio’n fwy ar y bobl fel materion iechyd meddwl a chydraddoldeb/amrywiaeth – Macsen – Gweithiwr Cymorth” – Macsen, Gweithiwr Cymorth

    “Rwyf wedi cael hyfforddiant mewn pob math o feysydd, o bethau fel deddfwriaeth tai sy’n benodol iawn i’r swydd, i’r meysydd sy’n canolbwyntio’n fwy ar y bobl fel materion iechyd meddwl a chydraddoldeb/amrywiaeth.” – Macsen, Gweithiwr Cymorth

    “Mae tai â chymorth yn ddrws troi parhaus, sy’n rhoi cyfleoedd a hyfforddiant o’r safon uchaf” – Deborah, Gweithiwr Prosiect

    Proffiliau Swyddi a Phobl

    Clywch gan y bobl sy’n gweithio ym maes Digartrefedd a Chymorth ar hyn o bryd… O’r rhai sydd wedi bod yma ers 20 mlynedd ac na fydden nhw eisiau gwneud unrhyw beth arall, i ddechreuwyr pur sy’n dwlu ar eu swyddi, a’r rhai sydd wedi newid sector gan ddefnyddio eu sgiliau trosglwyddadwy – darllenwch eu straeon anhygoel, ysbrydoledig ac ysgogol. Ewch i’n ianel YouTube am ragor o straeon ysbrydoledig gan bobl sy’n gweithio yn y maes.

    Post
    eich swydd

    Os ydych chi’n recriwtio yn y Sector Digartrefedd a Chymorth, byddem wrth ein bodd yn ychwanegu eich swydd at ein gwefan am ddim, fel y gallwn ni eich cefnogi chi i ddod o hyd i’r bobl orau. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael i ddarparwyr cymorth y trydydd sector, cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol yng Nghymru sydd â swydd ddigartrefedd neu gymorth yn y sector.

    Llenwch y ffurflen i ddechrau cael ceisiadau ar unwaith.

    Mae’r wefan hon yn ddwyieithog, felly gofynnwn i chi ddarparu’r wybodaeth yn ddwyieithog yn y fformat canlynol:

    “Saesneg / Cymraeg” ar gyfer y meysydd teitl y swydd, cyflogwr a lleoliad. Er enghraifft:
    – Senior Support Worker / Uwch Weithiwr Cymorth
    – Carmarthenshire County Council / Cyngor Sir Gaerfyrddin
    – Carmarthen / Caerfyrddin

    Os hoffech chi godi unrhyw faterion neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cliciwch yma.

    Post a job

    Post a job

    Open Door